Adnoddau -
Gwyliwch fideos →Rhestr Ddarllen Mabwysiadu
Cliciwch fan hyn i weld rhestr o rai o'n hoff lyfrau ynghylch mabwysiadu. Mae digon o rai eraill yn ogystal â'r rhestr hon, ond dyma le da i chi ddechrau eich ymchwil.
Sefydliad Cenedlaethol Syndrom Alcohol ar y Ffetws-UK
Mae NOFAS-UK (Sefydliad Cenedlaethol Syndrom Alcohol ar y Ffetws* -UK) wedi ymrwymo i gefnogi pobl a effeithiwyd gan Anhwylderau Sbectrwm Alcohol ar y Ffetws (FASD), eu teuluoedd a'u cymunedau. Mae'n hyrwyddo addysg ar gyfer gweithwyr proffesiynol ac ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch y risg o yfed alcohol yn ystod beichiogrwydd. Mae NOFAS-UK yn ffynhonnell wybodaeth ar FASD i'r cyhoedd, y wasg ac i weithwyr proffesiynol ym myd meddygaeth ac addysg.
Brené Brown ar Empathi
Beth yw'r ffordd orau i leddfu poen a dioddefaint rhywun? In y ffilm fer RSA hardd hon sydd wedi ei hanimeiddio, mae Dr Brené Brown yn ein hatgoffa mai'r unig ffordd y medrwn ni greu cysylltiad empathig o'r iawn ryw yw trwy fod yn ddigon dewr i gysylltu â'n breuder ein hunain.
Canolfan Cefnogaeth ac Adnoddau am Ddim
Mae byw gyda a charu plentyn sy'n cario poen trawma drwy eu bywyd bob dydd yn brofiad gwylaidd a llethol. Dyma ryfelwyr dewrion â'r nerth a gallu i ddal ati, hyd yn oed pan yw'r byd yn ymddangos yn beryglus a brawychus; mae'n anhygoel bod yn rhan o hyn. Mae'n golygu hefyd bod bywyd bob dydd yn drwm, yn anarferol, yn ddryslyd, yn ddychrynllyd, yn werth chweil ac o bryd i bryd yn rhyfeddol o ddoniol. Casgliad yw'r wefan hon o weithiau creadigol mewn fformatau gwahanol i gefnogi rhieni a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda'r plant anhygoel hyn. www.innerworldwork.co.uk
Diddordeb mewn mabwysiadu?
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi: cysylltwch â ni
Cysylltwch
Mae ein tîm cyfeillgar o gynrychiolwyr ar gael i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.
Ewch i'n tudalen gyswllt