Mae’r Model Mabwysiadu Gyda’n Gilydd yn dwyn ynghyd gwybodaeth ddamcaniaethol a modelau arferion gorau a ddatblygwyd ar draws y DU yn un model clir sy’n ymgorffori recriwtio plentyn-benodol; tîm wedi ei arwain gan seicolegydd clinigol ar gyfer Cyfarfod y Plentyn; trawsnewidiadau therapiwtig effeithiol o ofalwr maeth i fabwysiadwr sy’n cefnogi’r prif berthynas gofalwr-plentyn a chyfarfodydd ymgynghori seicoleg clinigol ar ôl gosod.
Mae’r model wedi ei ddatblygu trwy ein partneriaethau gyda phartneriaid statudol, gwirfoddol ac academaidd (Prifysgol Caerdydd) a therapiwtig (The Family Place – Y Gelli Gandryll).
Cliciwch ar y blychau isod i ganfod rhagor.