Mae’ch plentyn yn symud mewn – dyma garreg filltir enfawr ac rydym yn dal yma i’ch cefnogi.
Dros y 12 mis cyntaf yn dilyn gosod plentyn, byddwn yn trefnu tri chyfarfod, dan arweiniad seicolegydd clinigol. Bydd y cyfarfodydd hyn yn llai na chyfarfod Tîm ar gyfer y Plentyn, ac fe’ch gwahoddir chi fel y mabwysiadwr i fod yno ochr yn ochr â’ch gweithiwr cymdeithasol, gweithiwr cymdeithasol gofal plant ac unrhyw oedolion ychwanegol -gyda’ch cydsyniad chi.
Pwrpas y cyfarfodydd dilynol hyn yw canolbwyntio ar faterion ynghylch magu eich plentyn, gan ganiatáu rhannu gwybodaeth bwysig mewn amgylchedd diogel a chefnogol, lle bydd anawsterau wedi eu rhagweld a’u hadnabod fel ffordd normal o fagu eich plentyn.
Gellir codi gwybodaeth a rannwyd yn y cyfarfod Tîm ar gyfer y Plentyn wrth i chi ddechrau deall mwy trwy fyw gyda’ch plentyn. Bydd y cyfarfodydd hyn yn cynnig dealltwriaeth a sicrwydd i chi fel y mabwysiadwr. Byddant hefyd yn eich galluogi chi i archwilio unrhyw ymyriadau ychwanegol fydd orau i’ch cefnogi chi a’ch teulu wrth i chi dyfu gyda’ch gilydd.
Wrth i’ch plentyn setlo mewn i’ch teulu, mae’n bwysig parhau i adeiladu eu dealltwriaeth o’u profiadau a’u hanes eu hunain. Gellir cyflawni hyn trwy datblygu llyfr taith eu bywyd, neu trwy ddarparu ambell naratif i’w profiadau a’u hymddygiadau o ddydd-i-ddydd. Efallai bydd hyn hefyd yn golygu cyswllt parhaol gyda rhiant maeth y plentyn. Bydd eich swyddogaeth fel rhiant yn cynnwys helpu eich plentyn i gael synnwyr o’r hyn sydd wedi digwydd a’r hyn sydd yn digwydd, i ddarparu dilyniant dros amser.
Rydym yma i’ch cefnogi wrth i chi chwilio’r ffordd trwy hyn.