Trwy Mabwysiadu Gyda’n Gilydd, mae plant sydd wedi aros hiraf am deuluoedd yn cael eu nodi a’u hatgyfeirio i’r prosiect gan yr Awdurdod Lleol sy’n gyfrifol am eu gofal.
Efallai bod plant wedi bod yn aros am gyfnod hir am nifer o resymau, megis bod dros 4 oed, yn rhan o grŵp sibling, bod ganddynt anghenion ychwanegol, anghenion meddygol neu ansicrwydd meddygol.
Yn ogystal â hyn, efallai bod hyd y cyfnod maent wedi bod yn aros am deulu wedi effeithio ar eu hanghenion – un o’r rhesymau allweddol dros sefydlu Mabwysiadu Gyda’n Gilydd. Mae’r prosiect yn cynnig agwedd arbenigol at recriwtio teuluoedd, a phecyn cymorth wedi ei deilwra, sydd yn addas i ddiwallu anghenion y plentyn/plant unigol a’r mabwysiadwyr.
Isod ceir agwedd Cam wrth Gam i Fabwysiadu ar y Cyd.