Fedra i Fabwysiadu? -
Gwyliwch fideos →Rwy'n Sengl
Rydym yn croesawu ceisiadau gan fabwysiadwyr sengl! Byddwch yn derbyn yr un hyfforddiant â phob cwpwl, gan eich paratoi i fod y rhiant gorau medrwch chi ar gyfer plentyn sydd angen teulu.
Nid yw fy Mhartner a Fi yn Briod.
P'un ai eich bod yn briod, yn sengl, mewn perthynas, neu mewn partneriaeth sifil, rydym yn croesawu eich cais.
Rwyf Mewn Perthynas O'r Un Rhyw
Rydym yn derbyn mabwysiadwyr waeth beth yw eu hunaniaeth rhyw neu eu rhywioldeb. Mae gennym lawer o fabwysiadwyr gwych LGBTQ+! Darllenwch ein Blog i glywed rhai o'u storïau!
Ydw I'n Rhy Ifanc I Fabwysiadu?
Rhaid i chi fod dros 21 oed i fabwysiadu plentyn. Rydym yn trin pob cais gan fabwysiadwyr dros 21 yn gyfartal.
Ydw i'n rhy hen i fabwysiadu?
Nid oes terfyn uchaf ar yr oedran i fabwysiadu Cyhyd â'ch bod yn medru gofalu am blentyn nes iddynt gyrraedd eu llawn dwf, rydym yn croesau eich cais . Mae llawer o bobl yn dymuno mabwysiadu wedi i'w plant naturiol gyrraedd eu llawn dwf, pan yw eu plant naturiol yn eu harddegau, neu pan ydynt yn hŷn ac yn fwy sefydlog yng ngweddill eu bywydau.
Mae gennyf Anabledd neu Gyflwr Meddygol
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl ag anableddau neu gyflyrau meddygol hir-dymor. Rydym yn ymdrin â phob cais yn unigol, gan eich helpu gyda beth bynnag rydych ei angen. Rhowch ganiad i ni neu anfonwch e-bost i ofyn unrhyw gwestiwn penodol neu i ddysgu mwy!
Mae Anifeiliaid Anwes Gen I.
Rydym yn gwybod bod anifeiliaid anwes yn rhan o'ch teulu. Rydym yn croesawu ceisiadau gan y sawl lle mae'r anifeiliaid anwes yn gyfeillgar i deuluoedd, ac yn eich paru gyda phlant sy'n addas.
Mae Gen I Blentyn Naturiol
Rydym yn croesawu mabwysiadwyr â phlant naturiol, hen neu ifanc! Bydd rhai o'r plant sy'n aros am deuluoedd angen bod y plant ieuengaf mewn tŷ, felly mae croeso i chi ofyn cwestiynau penodol ynghylch eich teulu.
Diddordeb mewn mabwysiadu?
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi: cysylltwch â ni
Cysylltwch
Mae ein tîm cyfeillgar o gynrychiolwyr ar gael i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.
Ewch i'n tudalen gyswllt