Diolch i gyllid gan Wobr ESRC Impact Acceleration Prifysgol Caerdydd cynhaliodd Cymdeithas Plant Dewi Sant (ar y cyd â’u partneriaid Asiantaeth Fabwysiadu Wirfoddol Barnardo, Adoption UK ac After Adoption) ddau ddigwyddiad gweithdy ar gyfer gweithwyr cymdeithasol mabwysiadu, gweithwyr cymdeithasol gofal plant, gweithwyr cymdeithasol sy’n arolygu gofalwyr maeth a chyd-weithwyr eraill ym myd addysg ac iechyd i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r prosiect Mabwysiadu Gyda’n Gilydd. Cynhaliwyd y digwyddiadau yn Abertawe a Chaerdydd yn Ebrill 2018.
Pwrpas y gweithdai oedd i drafod prosiect Mabwysiadu Gyda’n Gilydd er mwyn denu mwy o gefnogaeth proffesiynol ac i wneud y mwyaf o hybu’r prosiect ar drwas y sector mabwysiadu yng Nghymru.
Agorwyd y gweithy gan Gerry Cooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Plant Dewi Sant; gosododd e’r llwyfan ar gyfer Mabwysiadu Gyda’n Gilydd. Dechreuwyd y cyflwyniadau gan Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gweithrediadau y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Gosododd Suzanne y cyd-destun a’r heriau a wynebir gan y sector mabwysiadu a manylodd ar amgylchiadau sefydlu’r prosiect Mabwysiadu Gyda’n Gilydd. Cliciwch fan hyn ar gyfer ycyflwyniad.
Roedd y cyflwyniadau a ddilynodd yn gyfle ar gyfer trafodaethau pellach ac i gyflwyno tystiolaeth o gwmpas cydrannau craidd model Mabwysiadu Gyda’n Gilydd. Rhoddodd Jennie Forsyth fanylion ac enghreifftiau o’r model trawsnewid a ddefnyddiwyd ganddi hi a’i chydweithwyr yn The Family Place, sydd wedi ei seilio ar agwedd ymlyniad ac ar sail trawma i therapi. Gyda chydsyniad caredig teuluoedd, roedd wedi darparu tystiolaeth fideo o’r gwaith hwn. Cliciwch fan hyn ar gyfer y cyflwyniad .
Roedd Dr Gemma Burns o Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi manylu ar y model cefnogaeth sy’n cael ei weithredu ar hyn o bryd ym model Gwasanaeth Mabwysiadu De Ddwryain Cymru (SEWAS). Model seicolegol o gefnogaeth yw hwn a ddarperir ar hyd y daith o fabwysiadu; mae’n canolbwyntio ar y syniad o adeiladu gwydnwch perthynol a chefnogi rhieni i ddatblygu dull o fagu plant gyda ffocws ar ymlyniad, gyda mynediad i rwydwaith o gefnogaeth arbenigol a chymheiriaid. Cliciwch fan yma ar gyfer y cyflwyniad.
Gan mai amcan y diwrnod oedd hybu gweithio rhwng asiantaethau nid yn unig trwy gyflwyno gwybodaeth ond trwy roi cyfle hefyd i drafod, roedd sesiwn y prynhawn wedi canolbwyntio ar drafodaethau grŵp o fewn timoedd rhanbarthol neu broffesiynol dan gadeiryddiaeth Kathy Jacobs o AFA Cymru. Gwahoddwyd grwpiau i ystyried eu barn am yr hyn oedd yn gweithio gyda model Mabwysiadu Gyda’n Gilydd a beth oedd angen digwydd iddo ffitio mewn gydag arferion cyfredol.
Yr ymateb a gasglwyd o’r trafodaethau hyn oedd bod cydweithwyr yn cytuno gydag ethos ac agwedd plentyn-ganolog y model. Mynegwyd gwerthfawrogiad o’r cyfle i ddwyn ynghyd nifer o weithwyr proffesiynol i’r drafodaeth (gan gynnwys gofalwyr maeth), gydag anferthedd y dasg a’r lefel o bwysigrwydd wedi ei nodi o’r dechrau yn gostwng amhariadau. Teimlwyd bod darparu cefnogaeth seicolegol o fewn i agwedd strwythuredig a chyson yn fuddiol, ochr yn ochr â lefel o rannu cyfrifoldeb ymhlith gweithwyr proffesiynol.
Roedd cwestiynau ynghylch sut mae’r model yn ffitio yn ymarferol wedi eu canoli ar gapasiti staff a’r angen i’r wybodaeth a gesglir trwy Mabwysiadu Gyda’n Gilydd i deithio gyda’r plentyn. Roedd yna bryderon ymarferol o gwmpas dolenni gyda therfynau amser disgwyliedig a’r angen i sicrhau dealltwriaeth y farnwriaeth a’r panel o’r prosiect. Nodwyd pryderon ynghylch yr angen i gynyddu ymwybyddiaeth ac ymwneud gofalwyr maeth yn y model ac i gynyddu ymwybyddiaeth gyda gweithwyr proffesiynol ym myd addysg ac iechyd gan eu bod wedi eu tan-gynrychioli yn y ddau ddigwyddiad.
Cafwyd adborth cadarnhaol iawn o’r gweithdai: roedd y rhai oedd yn bresennol wedi nodi bod y sesiynau naill ai’n ‘ardderchog’ neu’n ‘dda’ gyda 100% ohonynt yn credu bod yr hyn roeddynt wedi ei glywed yn mynd i wneud gwahaniaeth i blant a defnyddwyr eraill y gwasanaeth.
Cipiwyd darlun gweledol llawn dychymyg ac yn feddylgar gan Eleanor Beer. Gellir gweld y delweddau a greodd hi gydol y diwnrod trwy glicio ar y delweddau isod.