Dechreuwyd Mabwysiadu Gyda’n Gilydd yn 2018 i ganfod teuluoedd i’r plant mwyaf bregus sydd wedi aros am y cyfnod hiraf yng Nghymru.
Mae’r plant hyn yn aml:
- Yn hŷn na’r plentyn cyffredin sy’n aros am deulu
- Yn grwpiau sibling o 2 neu 3 sydd angen aros gyda’i gilydd.
- Yn blant â phroblemau iechyd a chyflyrau hir-dymor.
- Yn blant Duon, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig (BAME)
Po hiraf y maent yn aros, mwyaf anodd yw hi i ganfod teulu ar eu cyfer. Mae Mabwysiadu Gyda’n Gilydd yn rhoi gwell cyfle iddyn nhw ganfod teulu diogel a chariadus am oes.
Mae’r gwasanaeth Mabwysiadu Gyda’n Gilydd wedi ei adeiladu i helpu’r mabwysiadwr a’r plentyn i drawsnewid yn well, gan ddeall a chyfathrebu eu hemosiynau a chreu dolenni mwy cadarn fel uned deuluol.
Gall mabwysiadu fod yn ddryslyd i blentyn mewn gofal maeth, felly mae Mabwysiadu Gyda’n Gilydd wedi creu ambell system i’ch helpu yn y broses.