Mae gan Gymdeithas Plant Dewi Sant hanes balch o asesu, gosod a chefnogi teuluoedd LGBT+. Dros y bedair blynedd a aeth heibio, mae 1 o bob 10 o’r teuluoedd rydym yn cyflwyno i’n panel mabwysiadu yn LGBT+.
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein teuluoedd LGBT+ ac yn cynnig aelodaeth o ‘New Family Social’ i’r holl fabwysiadwyr sy’n mynd trwy’r daith gyda ni. ‘New Family Social’ yw’r unig elusen yn y DU a arweinir gan fabwysiadwyr a gofalwyr maeth LGBT+. Maent yn cynnig cefnogaeth cymheiriaid, hyfforddiant a diwrnodau o hwyl i deuluoedd gael cyfle i adnabod mabwysiadwyr eraill i helpu creu rhwydweithiau cefnogi. Mae eu gwefan yn egluro’r manylion i gyd: