Bydd angen i chi eu deall, fod yn gariadus, yn chwareus a charedig. Bydd angen i chi gael lle yn eich bywydau, yn ogystal â phobl o’ch cwmpas, i rannu’r llawenydd a’r heriau. Byddwn yn cyd-gerdded â chi i’ch helpu i ddeall beth fydd ei angen ar eich plentyn, a byddwn yn sicrhau bod gennych y gefnogaeth gywir ar yr amser cywir.
Prosiect newydd yw Mabwysiadu Gyda’n Gilydd sy’n cynnig model penodol o asesiad, hyfforddiant a chefnogaeth barhaus fydd yn eich galluogi a’ch grymuso i ddiwallu anghenion eich plentyn tra’n creu eich teulu.
Noder: Prosiect wedi ei dargedu yw Mabwysiadu Gyda’n Gilydd oddi mewn i waith Cymdeithas Plant Dewi Sant. Os nad ydych yn credu bod Mabwysiadu Gyda’n Gilydd yn iawn i chi, ond eich bod yn dal â diddordeb mewn mabwysiadu, medrwch gael gwybodaeth bellach ar broses fabwysiadu Cymdeithas Plant Dewi Sant yma