Pam Mabwysiadu gyda Dewi Sant? -
Gwyliwch fideos →Mynediad Hawdd
Rydym ar gael ar y ffôn neu trwy e-bost o ddydd Llun i ddydd Gwener 9am - 5 pm. Mae pob galwad ffôn yn cael ei throsglwyddo'n syth i weithiwr cymdeithasol - fel eich bod yn gwybod eich bod yn siarad bob tro gyda bod dynol!
Ymatebion Cyflym
Byddwn yn eich dechrau cyn gynted â phosibl. Byddwn yn ateb pob ymholiad o fewn wythnos, a'n bwriad yw cael gweithiwr cymdeithasol allan i'ch gweld cyn gynted â bo hynny'n gyfleus.
Teulu ar gyfer Eich Teulu
Sefydliad bach ydym ni, fel teulu. Byddwch yn gweld yr un wynebau bob tro rydych yn dod i'n gweld, a bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn dod i'ch adnabod yn bersonol.
Lleoliad Penigamp
Rydym yn 28 Park Place Caerdydd -- yn reit agos i'r Amgueddfa Genedlaethol! Mae lleoedd parcio gerllaw a mynediad hawdd i drenau a bysus, gan ei gwneud yn rhywfiaint yn haws pan fyddwch am ymweld â ni.
Cefnogaeth Gydol Oes.
Pan fyddwn yn dweud cefnogaeth gydol oes, rydym yn ei feddwl! Gallwch ddod yn ôl atom 5, 10, neu 15 mlynedd wedi i chi fabwysiadu, a byddwn yn eich helpu gydag unrhyw frwydrau rydych yn eu hwynebu gyda'ch teulu neu bod yn rhiant. Rydym eisiau'r gorau i chi a'ch plentyn/plant, felly rydym yn ymdrin o ddifrif ac yn bersonol ag unrhyw gais am gefnogaeth neu gyngor. Byddwch bob amser yn cael eich cyfeirio at weithiwr cymdeithasol fydd yn eich helpu i ddatrys pethau.
Diddordeb mewn mabwysiadu?
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi: cysylltwch â ni
Cysylltwch
Mae ein tîm cyfeillgar o gynrychiolwyr ar gael i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.
Ewch i'n tudalen gyswllt