Gellir defnyddio recriwtio plentyn-benodol pan dderbynnir atgyfeiriad a bod dim dolenni darpar fabwysiadwyr i’w harchwilio.
Os nodir nad oes darpar fabwysiadwyr a bod recriwtio plentyn-benodol wedi ei gytuno rhwng yr Asiantaeth Fabwysiadu Wirfoddol a’r cydweithredwyr rhanbarthol trefnir cyfarfod ymgynghori rhwng y VAA a gweithiwr cymdeithasol y plentyn, gofalwr maeth y plentyn a’r rheolwr neu uwch swyddog â chyfrifoldebau dros wneud penderfyniadau, ynghyd ac unrhyw bersonau eraill a nodir fel rhai perthnasol. Yn y cyfarfod hwn caiff cynllun recriwtio ei lunio. Bydd hwn yn cael ei gwblhau gan y VAA yn dilyn y cyfarfod a’i rannu gyda gweithwyr proffesiynol perthnasol ar gyfer cymeradwyaeth derfynol.
Yna caiff y cynllun recriwtio ei weithredu; gan amlaf bydd hwn yn cynnwys proffil digidol o’r plentyn, gan gynnwys ffotograffau proffesiynol a ffilm fer. Defnyddir y rhain mewn digwyddiadau proffilio pan fydd cytundebau cyfrinachedd wedi eu derbyn, ac i ddangos i ddarpar fabwysiadwyr.
Rhoddir proffil y cytunwyd arno ar wefan Mabwysiadu Gyda’n Gilydd ac, os yw hyn wedi ei gytuno yn y cynllun recriwtio, caiff ei rannu ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y VAA, gan gynnwys Twitter a Facebook.
Os, trwy’r broses hon, y nodir darpar fabwysiadwr, bydd y VAA yn cynnal ymweliad cychwynnol ac yn cwblhau adroddiad uwch. Yn dilyn archwiliad mewnol, caiff yr adroddiad hwn ei rannu gyda Gwasanaeth Mabwysiadu Rhanbarthol y plentyn a’i awdurdod lleol. Os bydd cytuno ynghylch bwrw ymlaen, gwahoddir gweithiwr cymdeithasol y plentyn i gwrdd â’r darpar fabwysiadwr ac, ar ôl cytuno, bydd asesiad y mabwysiadwr yn dechrau, gyda’r ffocws ar y plentyn. Er mwyn diogelu pob parti, bydd plant eraill yn dal i gael eu trafod gyda’r darpar fabwysiadwr ac mae hawl gan hwnnw neu honno newid eu meddwl ar unrhyw adeg.
Os yw’r ddolen yn mynd yn ei blaen yn llwyddiannus, gwahoddir y darpar fabwysiadwr i gyfarfod Tîm ar gyfer y Plentyn yn dilyn cymeradwyaeth panel mabwysiadu y VAA.