Wrth i chi fynd drwy’r broses o gymeradwyo mabwysiadu, bydd modd i chi nodi’r cyfuniad gorau ar eich cyfer chi a’ch teulu a’r mathau o blant y medrwch eu magu, boed hynny’n blentyn ifanc, yn blentyn hŷn, un plentyn neu grŵp sibling.
Os ydych yn dymuno mabwysiadu plentyn hŷn, gallwch siarad â’ch gweithiwr cymdeithasol am hyn a dysgu am y ffyrdd bydd magu’r plentyn hwn yn wahanol i blentyn iau.
Mae ein Gwasanaeth Mabwysiadu Gyda’n Gilydd yn canfod cartrefi i blant sydd wedi bod yn aros am y cyfnod hiraf ac yn aml mae’r rhain yn blant hŷn. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu ynghylch Mabwysiadu Gyda’n Gilydd, medrwch ddarllen mwy am hynny fan hyn neu gallwch holi gweithiwr cymdeithasol amdano.