Mae llawer o siblingiaid yn aros am deuluoedd ar hyn o bryd. Gall y rhain fod yn grwpiau sibling o ddau, o dri neu o bedwar. Os ydych yn dymuno mabwysiadu siblingiaid, gallwch ddweud wrth eich gweithiwr cymdeithasol a byddant yn trafod eich sefyllfa gyfredol gyda chi. Bydd y sgwrs hon yn cynnwys siarad am faint o le sydd yn eich cartref, y costau sydd ynghlwm wrth godi siblingiaid, eich capasiti emosiynol a chorfforol ac unrhyw ffactorau eraill all effeithio ar eich penderfyniad. Wrth i chi ddechrau’r broses o fabwysiadu, efallai bydd eich barn yn newid, felly mae’n well gweithio trwy hyn gyda’ch gweithiwr cymdeithasol er mwyn sicrhau’r paru gorau i chi a’r plentyn.
Rwyf Eisiau Mabwysiadau Siblingiaid -
Gwyliwch fideos →Diddordeb mewn mabwysiadu?
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi: cysylltwch â ni
Cysylltwch
Mae ein tîm cyfeillgar o gynrychiolwyr ar gael i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.
Ewch i'n tudalen gyswllt