Mae mabwysiadu plentyn yn benderfyniad mawr ond yn un cyffrous a boddhaus. Cyn i chi gysylltu â ni, y peth gorau yw i’r ddau bartner drafod eich disgwyliadau â’ch gilydd. Wrth i chi ddechrau’r broses o wneud cais, bydd angen i ni wybod bod y ddau bartner yn barod ac yn gwneud y penderfyniad hwn ar y cyd. Trwy gydol y broses, bydd angen i chi siarad am bob rhan o’ch bywyd, o’ch dulliau o fod yn rhiant, i’ch cynlluniau ariannol a’ch gyrfa, i sut rydych yn bwriadu cynnwys eich teulu estynedig a llawer mwy.
Os ydych yn gwpwl â phlentyn eisoes, p’un ai bod hwnnw’n blentyn a anwyd i chi, yn blentyn a fabwysiadwyd yn flaenorol, neu’n blentyn o berthynas flaenorol, bydd angen iddo/ iddi fod yn rhan o’r broses ac i chi eu helpu i deall y daith sydd o’u blaenau. Efallai bod gennych blant eisoes; mae bod yn rhiant i bob plentyn yn unigryw a gorau po fwyaf o baratoi y gwnewch chi ar gyfer y daith hon.
Chwiliwch am sut beth yw’r broses fabwysiadu fan hyn, neu darllenwch storïau rhai o’n mabwysiadwyr.