Rydym yn dilyn tri theulu sydd wedi mabwysiadu trwy Gymdeithas Plant Dewi Sant wrth iddynt ddweud eu storïau o’r tro cyntaf iddyn ystyried mabwysiadu i’r gefnogaeth barhaol maent yn ei dderbyn gan ein hasiantaeth.
Storïau Mabwysiadu Teuluoedd -
Gwyliwch fideos →Dechrau
Y cyntaf yn ein cyfres o fideos yn siarad â thri theulu gwahanol ynghylch eu taith fabwysiadu. Yn y fideo cyntaf hwn mae ein teuluoedd yn siarad am y rheswm dros benderfynu mabwysiadu a pham iddynt ddewis mabwysiadu gyda Chymdeithas Plant Dewi Sant.
Dysgu am fabwysiadu a Dewi Sant
Yr ail yn ein cyfres o fideos yn siarad â thri theulu gwahanol ynghylch eu taith fabwysiadu. Fan hyn, mae'r sawl sydd wedi mabwysiadu yn hel atgofion ynghylch camau cynnar eu taith fabwysiadu megis mynychu'r Hyfforddiant Paratoi ac hefyd cwrdd â'u gweithiwr cymdeithasol am y tro cyntaf.
Eich Asesiad
Y trydydd yn ein cyfres o fideos yn siarad â thri theulu gwahanol ynghylch eu taith fabwysiadu. Mae ein teuluoedd yn hel atgofion ynghylch eu perthynas gyda'u gweithiwr cymdeithasol a'r cyfnod yn arwain at y Panel!
Y Plentyn Iawn i Chi
Y pedwerydd yn ein cyfres o fideos yn siarad â thri theulu gwahanol ynghylch eu taith fabwysiadu. Ein tri theulu yn egluo'r broses o baru pan gânt eu cysylltu am y tro cyntaf gyda'u plant.
Diddordeb mewn mabwysiadu?
Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi: cysylltwch â ni
Cysylltwch
Mae ein tîm cyfeillgar o gynrychiolwyr ar gael i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.
Ewch i'n tudalen gyswllt