Cyfrannu Ar-lein
Cyfrannu ar-lein yw’r ffordd gyflymaf a hawsaf i ddangos eich cefnogaeth i’r plant rydym yn eu gosod i’w mabwysiadu. Mae Dewi Sant yn croesawu pob rhodd, pa mor fach bynnag gan fod pob swm yn ein helpu i ddarparu ein gwasanaeth o ansawdd uchel.
Am cyn lleied â £5.00 y mis gallwch gefnogi plant bregus sydd, yn eu bywydau cynnar, wedi bod yn agored i drawma, camdriniaeth ac esgeulustra.
Gallwch wneud cyfraniad un-tro neu gyfraniad rheolaidd trwy glicio’r botwm isod.
Rhodd Cymorth – Gwneud i’ch arian fynd ymhellach
Os ydych yn talu treth yn y DU bydd eich rhodd yn gymwys ar gyfer Rhodd Cymorth. Mae defnyddio rhodd cymorth yn golygu ein bod, ar gyfer pob punt rydych yn rhoi, yn medru hawlio 25c ychwanegol oddi wrth Cyllid a Thollau EM. Sydd yn golygu y gall eich cyfraniad fynd ymhellach.
Cewch eich annog i hawlio Rhodd Cymorth pan fyddwch yn gwneud cyfraniad ar-lein – gan fod hyn yn gwneud cymaint o wahaniaeth, plîs ticiwch ydwyf.
Os ydych yn dymuno cyfrannu trwy siec a chynnwys Rhodd Cymorth gallwch lawrlwytho ffurflen Rhodd Cymorth yma.