Gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau llawer o deuluoedd trwy adael rhodd yn eich Ewyllys i Gymdeithas Plant Dewi Sant. Gall rhoddion fod yn fawr neu’n fach; mae cymynroddion yn cynnig ffynhonnell hanfodol o gyllid i Dewi Sant, i’n helpu i sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu ein gwasanaeth i blant a theuluoedd. Diolch os ydych yn ystyried gadael Rhodd yn eich Ewyllys i Dewi Sant.
Sut i gofio amdanom yn eich Ewyllys.
Os hoffech adael rhodd i Gymdeithas Plant Dewi Sant yn eich Ewyllys, rydym yn eich cynghori i siarad â chyfreithiwr. Gallant eich helpu i fraslunio’ch ewyllys i gynnwys cymynrodd i ni. Pan yn gadael rhodd i ni cofiwch roi’r wybodaeth a ganlyn i’ch cyfreithiwr.
Enw’r Elusen; Cymdeithas Plant Dewi Sant
Rhif Elusen Gofrestredig: 509163
Cyfeiriad: Cymdeithas Plant Dewi Sant, 28 Park Place, Caerdydd, CF10 3BA