Felly rydych yn credu eich bod eisiau mabwysiadu – beth nesaf?
Y cam cyntaf yw cysylltu â ni! Medrwch wneud hyn mewn tair ffordd: (1) Anfonwch e-bost atom! E-bost info@stdavidscs.org neu defnyddiwch ein ffurflen gyswllt a byddwn yn cysylltu â chi. (2) Ffoniwch ni ar 02920 667007! Byddwch yn siarad â gweithiwr cymdeithasol ar unwaith a all ateb unrhyw gwestiynau neu eich helpu i ddechrau’r broses o fabwysiadu! (3) Galwch mewn i’r swyddfa! Mae gyda ni oriau Galw-Heibio pob dydd Mawrth a dydd Iau o 12pm – 2pm — gydol y flwyddyn! Does dim angen apwyntiad; galwch mewn i’n swyddfa yn 28 Park Place, Caerdydd a bydd gweithiwr cymdeithasol yn eistedd gyda chi i siarad am fabwysiadu.