Mae agwedd Mabwysiadu Gyda’n Gilydd at drawsnewid yn defnyddio model a ddyfeisiwyd gan The Family Place sydd yn canolbwyntio ar gefnogi’r plentyn i ddefnyddio eu prif ofalwr/ffigwr ymlyniad. Yn y lle cyntaf, chi fel y gofalwr maeth fyddai’r ffigwr hwn ac wrth i gyflwyniadau fynd yn eu blaen mae’r model yn archwilio sut y gall hyn symud i’r mabwysiadwr. Gwneir hyn trwy broses strwythuredig o sesiynau sydd yn gweld yr oedolion yn canoli emosiynau ar gyfer y plentyn yn hytrach na bod y plentyn yn ymdrin â hwy ar ei ben ei hun.
Fel y gofalwr maeth, fe’ch gwahoddir i fod yn bresennol mewn chwe sesiwn wedi eu seilio ar chwarae gyda’r plentyn a gweithiwr trawsnewid penodedig. Mae’r sesiynau hyn yn cyfuno agweddau gwahanol gan gynnwys Theraplay, Seicotherapi Datblygiadol Dyadig a gwaith naratif, ac yn darparu cyfres o weithgareddau ar sail chwarae. Bydd y tair sesiwn gychwynnol yn dechrau gyda chi fel y gofalwr maeth a’r plentyn; wedi hynny gwahoddir y mabwysiadwr i ymuno. Yn dilyn gosod y plentyn medrwch chi fel gofalwr maeth gamu am yn ôl a bydd y sesiynau sy’n weddill yn digwydd gydag ond y plentyn a’r mabwysiadwr.
Nod y sesiynau ar y cyd yn ystod y cyflwyniadau yw darparu neges i’r plentyn (trwy gemau a chwarae rhyngweithiol) bod modd symud gofal o un ffigwr ymlyniad i un arall. Mae’r negeseuon a gynhwysir o fewn hyn yn canolbwyntio ar “rydym am ddangos (i’r mabwysiadwr) yr holl gemau arbennig rydym yn chwarae a’r ffyrdd y mae angen i chi (y plentyn) gael gofal”. Ochr yn ochr â hyn, gall trefn gyfarwydd gemau ac arferion gael effaith rymus ar y plentyn.
Bydd y gweithiwr trawsnewid yn cysylltu â chi cyn i’r sesiynau ddechrau i drafod y gweithgareddau a gynlluniwyd, ffurf y sesiynau a’r trefniadau ymarferol.