Rhaid i blant gael eu hatgyfeirio i’r prosiect Mabwysiadu Gyda’n Gilydd gan y Cydweithredwyr Rhanbarthol sydd yn canfod teulu ar eu cyfer ar y pryd. Dylai’r plentyn gael ei nodi fel un sydd dan risg o orfod aros am y cyfnod hiraf i ganfod teulu a rhaid bod y Cydweithredwyr Rhanbartholwedi derbyn caniatâd gan yr Awdurdod Lleol lle mae’r plentyn yn cael Gofal Amdano cyn anfon atgyfeiriad.
Er mwyn i atgyfeiriad gael ei dderbyn, mae’n bwysig bod yr wybodaeth gywir yn cael ei rhannu gyda’r Asiantaeth Fabwysiadu Wirfoddol. Mae hyn er mwyn sicrhau bod gan yr asiantaeth yr wybodaeth hanfodol i greu darlun o’r plentyn a nodi’r teulu iawn.
Dylai’r wybodaeth a rennir gynnwys y dogfennau canlynol:
- Adroddiad Mabwysiadu’r Plant
- Proffil y Plant
- Cynllun Cefnogi Mabwysiadu
- Rhaglen Tyfu Sgiliau / Asesiad Ruth Griffiths
- Adroddiad y Seicolegydd Addysg
- Cofnodion Meddygol neu unrhyw ddogfennau meddygol perthnasol
- Asesiadau Sibling
- Unrhyw ddogfennau perthnasol eraill h.y. gwybodaeth ynghylch byw gyda’r plentyn wrth y gofalwr maeth.
Rhaid bod y rhain wedi eu diweddaru o fewn y chwe mis blaenorol a’u cyflwyno gyda ffurflen atgyfeirio gyflawn i Reolwr y Prosiect yn y brif Asiantaeth Fabwysiadu Wirfoddol, Cymdeithas Plant Dewi Sant gan y Cydweithredwyr Rhanbarthol.
Unwaith mae atgyfeiriad wedi ei dderbyn a’i gymeradwyo, mae dau lwybr posibl.
- Bydd darpar fabwysiadwr yn cael ei nodi’n fewnol gan fabwysiadwyr cyfredol sy’n cael eu hasesu o fewn y VAAs – Cliciwch fan hyn
- Does yr un darpar fabwysiadwr wedi ei nodi ac mae recriwtio plentyn-benodol yn cael ei gynllunio a’i gychwyn – Cliciwch fan hyn