Mae’r model a ddefnyddir yn MMabwysiadu Gyda’n Gilydd wedi ei greu gan ddefnyddio gwybodaeth ac arbenigedd yr Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol. Maent wedi gweithio ar y cyd ac mewn ymgynghoriad llawn gyda’r Cydweithredwyr Rhanbarthol i sicrhau bod y model yn diwallu anghenion plant a’r rhai hynny sy’n gweithio yn y gwasanaethau â chyfrifoldeb am y plentyn.
Ni fyddai’r model wedi ei ddatblygu heb gefnogaeth lwyr gan The Family Place, a oedd wedi darparu mewnwelediad clinigol a seicolegol gwerthfawr i drawsnewidiadau effeithiol a chefnogaeth barhaol sy’n darparu seilwaith i’r model.
Mae’r cydrannau sy’n creu’r model fel a ganlyn
- Recriwtio ac asesiad penodol mabwysiadwyr gan Gymdeithas Plant Dewi Sant a Barnardo gan gynnwys recriwtio plentyn-benodol mewn partneriaeth â thimoedd Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol fu’n canfod teuluoedd
- Cyfarfodydd Tîm ar gyfer Plentyn cyn paru ffurfiol sy’n dwyn ynghyd cyfoeth o wybodaeth wrth y rhai hynny sy’n adnabod y plentyn orau. Dan arweiniad seicolegydd clinigol ac wedi eu cydlynu gan y rheolwr prosiect. Bydd datganiad seicolegol yn cael ei baratoi am y plentyn a’r tasgau bod yn rhiant fydd eu hangen ar draws y trawsnewidiadau a thu hwnt.
- Sesiynau trawsnewid trwy chware therapiwtig strwythuredig cyn ac ar ôl symud at y teulu mabwysiadol.
- Tri chyfarfod Ymgynghori Seicolegol cyn y gosod dan arweiniad seicolegydd clinigol i alluogi mabwysiadwyr i ailedrych ar yr wybodaeth dderbyniwyd gan y Tîm ar gyfer Cyfarfod y Plentyn neu hyfforddiant cyn-cymeradwyo a datblygu strategaethau parhaol ynghylch bod yn rhiant yn ôl yr angen. Byddwn yn rhagweld ac yn normaleiddio anawsterau.
Cliciwch yma i weld y model Mabwysiadu Gyda’n Gilydd Cliciwch yma i weld sut mae proses y model Mabwysiadu Gyda’n Gilydd yn cysylltu â gweithrediadau statudol.